Cysylltu

Penybontfawr choir singing at weddingMae Cor Meibion Penybontfawr ar gael i`w llogi ar gyfer Priodasau, Penblwyddi Priodasau, Partis neu unrhyw Achlysur Pwysig yn eich bywydau. Cysylltwch a Gerald gan ddefnyddio y ffurflen isod.  I gysylltu ein hysgrifennydd, wnewch chi ddefnyddio y ffurflen isod hefyd.

Pe baech angen cysylltu a ni er mwyn trefnu Cyngerdd eto cysylltwch a Gerald, mae yn llawn o wybodaeth am waith a cherddoriaeth ein Cor. 

Efallai eich bod yn meddwl ymuno ar Cor neu hyd yn oed dod heibio ar Nos Fercher am wyth o’r gloch, i wrando arnom yn ymarfer yn Neuadd Ysgol Pennant, mae croeso cynnes i chwi alw hyd yn oed pe baech dim ond yma ar wyliau.