Ymuno â’r côr – dod yn aelod o’r côr

Rydym bob amser yn barod i dderbyn recriwtiaid newydd ac fe’u croesewir i’r adran fwyaf addas ar gyfer eu lleisiau.

I gychwyn mae cyfnod di-ymroddiad sy’n rhoi cyfle i’r Cyfarwyddwr Cerdd a’r un gobeithiol fel ei gilydd i asesu os yw’n ddoeth i gario ‘mlaen. Fel mae’r cyfnod prawf yn parhau a’r ymroddiad o fod yn aelod o’r Côr wedi’i brofi, mae yna ddysgu o’r repertoire gyfredol sy’n arwain at gyflwyno’r wisg gorawl sef siaced a thei ac yna’r ‘cyngerdd cyntaf’ bythgofiadwy.

Dyma hobi gwych bod yn rhan o grŵp o ddynion sy’n wirioneddol yn gwneud cyfraniad tuag at lwyddiant cymaint o fudiadau sy’n gofyn i ni eu helpu hwy i godi arian, a hynny i gyd tra’n canu wrth eich bodd !

Dan ni’n ymarfer pob nos Fercher, 8 y.h,  yn Neuadd y Pentref, Penybontfawr.

Beth amdani?