Côr Meibion Penybontfawr
Lleolir Côr Meibion Penybontfawr ym mhentref Penybontfawr, pentref bychan mewn ardal ffermio’n bennaf, wedi ei leoli yng Ngogledd Sir Drefaldwyn ym mhen uchaf y dyffryn hardd, Dyffryn Tanat a ger Mynyddoedd y Berwyn. I weld y map o’r lle ‘rydym cliciwch yma neu os yn teithio gan defnyddio lloeren mordwyo rhowch y cod post sef SY10 0PA i’r peiriant ac byddwch ar eich ffordd.
Yma, ym 1951 o dan y teitl gwreiddiol “Côr Meibion Barrog”, wedi ei enwi ar ôl y nant sy’n ymuno â’r Afon Tanat yn y pentref, hefo 12 o gantorion dan arweiniad ffarmwr talentog lleol Mr Spuriel Evans a’i briod, yn arweinydd a hithau yn gyfeilydd, ffurfiwyd sylfaen Côr Meibion Penybonfawr sydd nawr hefo “dros pedwar deg o aelodau”. Yn dilyn marwolaeth Mr. Evans’ ym 1968, gwahoddwyd Emyr Lloyd Jones i arwain y Côr a fe wnaeth hynny’n llwyddiannus iawn tan ei ymddeoliad ym 1994. Yn dilyn ymddeoliad Mr Emyr Lloyd Jones buom yn ffodus iawn o gael Tegwyn Jones fel ein harweinydd. Roedd gynt yn gorydd yn y Côr ac hefyd mae’n enwog fel unawdydd bariton. Ein cyfeilydd ers 1974 yw Lynda Thomas, nith i’r arweinydd côr sylfaenol. Mae wedi bod yn hynod o ffyddlon i’r Côr yn ystod y cyfnod hwn ac yn dwr o nerth i’r arweinydd a’r Côr. Mi wnaeth hi ymddeol yn 2019! Gyda’i gilydd maent yn adlewyrchiad o’r dyfnder o draddodiad cerddorol diymhongar ac fe welir ei ardderchowgrwydd yn naturiol yng ngwaith bob dydd y cymunedau gwledig a diwydiannol.
Gorwedd ein Pentref wrth droed Fynyddoedd y Berwyn yn Nyffryn hardd y Tanat lle yn ei tharddiad cewch flasu llonyddwch ac heddwch Creirfa Pererindod Santes Melangell ym Mhennant Melangell. Yn agos iawn mae un o Saith Rhyfeddod Cymru sef Pistyll Rhaeadr ac hefyd pentref Llanrhaeadr ym Mochnant ei hun, lle ym 1588 cyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg gan Ficer y cyfnod, ddaeth wedyn yn Esgob William Morgan. Rydym hefyd yn agos at lyn enwog, Llyn Efyrnwy neu Llyn Llanwddyn, adeiladwyd i gyflenwi dinas Lerpwl gyda dŵr, a’r cyfan yn werth eu cynnwys ar eich rhestr wyliau fel rhan och gwyliau deithiol. Mae’r llyn naturiol Llyn Tegid (Y Bala) yn agos iawn atom, fel rydym yn agos at y drefi marchnad Y Trallwng a Chroesoswallt . Nid yw trefi’r Gororau Yr Amwythig, Llwydlo a Henffordd ond taith diwrnod i ffwrdd, fel hefyd mae cyrchfannau Bae Ceredigion i’r cyfeiriad arall.
Mae gennym gyflenwad da o barciau carafannau, safleoedd sefydlog a theithiol a llety G&B, Gwestai a Gwyliau Fferm.
YMWELWYR
Nid yn unig rydym yn mwynhau gweld aelodau newydd ond hefyd rydym yn wirioneddol mwynhau ein rihyrsals pan fydd ymwelwyr yn ymweld neu’n aros yn yr ardal, yn dod i wrando arnom yn ymarfer. Rydym wedi rhoi adloniant pobl wedi dod o lefydd mor bell ag Awstralia, Norwy, Yr Iseldiroedd ac un ymwelydd ifanc o Fflorida yn dal i sôn am ei syndod a’i mwynhad o glywed Côr o ddynion yng nghanol gwlad Sir Drefaldwyn yn canu “Dixie” iddi hi.
OS YDYCH YN YR ARDAL BUASEM YN FALCH IAWN i’CH CYFARFOD