Pwy ydy Pwy?

BYWYD Y CÔR

Llywydd
Mrs Lynda Thomas

Is Lywyddion

Mr Ieuan Jones

Mr Gordon Jones

Mrs Olwen Jones

Mr Howard Owen

Mr Tudor Vaughan

Cadeirydd
John Rowles

Is Gadeirydd
Eifion Williams

Ysgrifennydd
David Weston

Ysgrifennydd Cyngerdd
Gerald Martin

Trysorydd
Dr Peter Jones

Llyfrgellydd
Gareth Jones


Cyfarwyddwr Cerdd ac Arweinydd – Miss Rhonwen Jones

Mae Rhonwen yn gymeriad dymunol dros ben, ac yn arweinydd deallus a phenderfynol. Mae ei hymdeimledd hyderus a’i gallu cerddorol, heb anghofio ei synnwyr digrifwch parod, yn ein hatgoffa yn aml, mor ffodus yr ydym o’i harweinyddiaeth. Roeddem eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y Gwyliau Corau Meibion Eingl-Gymreig yn y Canoldir a Chaerdydd pan ddaeth atom, ac er hynnu fe sicrhaodd bod y Côr yn meistroli dau ddarn eithaf anodd, yn ogystal a darn gosod heriol, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Ni chawsom ein gosod ymhlith y gwobrau, ond amlygwyd ein gallu i ymgymryd â thasg sylweddol a llwyddo i roi cyflwyniad cymeradwy mewn ychydig iawn o amser.

Nid yw’r llwyfannau mawr yn ddieithr i Rhonwen. Nid yn unig mae hi’n berfformwraig brofiadol gyda Pharti Perlais a chorau cymysg Penllys a Bro Gwerfyl ond hefyd, mae wedi ennill ei phlwyf fel unawdydd a deuawdydd. Mae ei chyfraniad fel deuawdydd gyda Olwen yn ychwanegiad gwefreiddiol at ein cyngherddau ac rydym mor falch ei bod hi’n ymddangos ar ein rhestr unawdwyr.

Roeddem wrth ein bodd pan gytunodd Miss Rhonwen Jones, o Landderfel, ger y Bala, i’n harwain wedi ymddeoliad Tegwyn â fu wrth y llyw am ddwy flynedd a’r bymtheg. Cymerodd yr awenau adeg y Pasg 2012 ac roeddem yn eiddgar i fanteisio ar ei dawn a’i phrofiad helaeth ym myd cerddoriaeth. Ni chawsom ein siomi.

Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi ar gyfer ein CD newydd!


Cyfeilydd – Mrs Margaret Davies


Dirprwy Arweinydd – Mr Christopher Belk 

Penderfynodd Christopher Belk ymuno a’r côr yn fuan iawn wedi iddo symud i Ddyffryn Tanat. Erbyn hyn y mae wedi bod yn aelod ers llawer o flynyddoedd. Er na fu’n ystyried ei hyn yn arweinydd, rydym yn ymwybodol o’i allu a’i weledigaeth i ddatrys cymhlethdod rhai o’r darnau cerddoriaeth anoddaf. Y mae Chris yn ddysgwr Cymraeg ymroddedig, a’i fryd ar dwysáu ei ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru. Bu’n canu mewn corau gydol ei oes ac felly gall gyfrannu o gyfoeth ei brofiad i’r cyfnod newydd hwn rydym am gychwyn gyda’n gilydd.


Mae gennym unawdwyr hefo ni bob tro yn ein cyngherddau :-

Mr Garry Evans – un o’r adran Ail Denoriaid ac mae’n canu rhai o’r darnau unawd rhai eitemau’r Côr fel ‘The Silver Trumpet’.

Mr Eifion Williams   Eifion yw ein Rheolwr Llwyfan ac y mae pob amser yn gwneud yn sicr ein bod yn cyrraedd y llwyfan yn drefnus ac yn daclus.

Mr Huw Morris   pan fydd Eifion yn methu a dod, bydd Huw yn sicrhau bod pawb a phopeth yn ei le.

Mr Trevor Foste yw’r Gwyddelwr profoclyd yn yn ein plith a’n Cyflwynydd Cyngerdd sydd bob amser yn rhoi pleser hefo’i storfa o straeon digri.

Mr Alwyn Williams  –  o dro i dro, ac yn enwedig pan byddwn yn cael ymrwymiad mewn ardal hollol Gymraeg bydd Alwyn yn galw ar brofiad o fywyd ym myd addysg i gymeryd drosodd fel arweinydd y noson.

AELODAU A RHEOLAETH DDYDDIOL O’R COR

Y Côr cyfan sydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn a chyngherddau, tripiau, achlysur ar y cyd a phethau tebyg, pan yn ymarfer ac yn y dull hwnnw rydym yn hollol ddemocrataidd.

Mae’n hanes a’n daearyddiaeth yn dangos ein bod yn bennaf yn gôr o ffermwyr a chrefftwyr gwledig ond nid yw hynny yn cau allan swyddi eraill. Mae’n fater o gryn gŵyl, pan ein cyflwynir,  ein bod yn galw ar wasanaethau Prifathro, Meddyg, Deintydd, Bancwr, Cyfreithiwr,  Gweinidog yr Efengyl, ac Ymgymerwr.

DOD YN AELOD O’R CÔR

Rydym bob amser yn barod i dderbyn recriwtiaid newydd ac fe’u croesewir i’r adran fwyaf addas ar gyfer eu lleisiau.

I gychwyn mae cyfnod di-ymroddiad sy’n rhoi cyfle i’r Cyfarwyddwr Cerdd a’r un gobeithiol fel ei gilydd i asesu os yw’n ddoeth i gario ‘mlaen. Fel mae’r cyfnod prawf yn parhau a’r ymroddiad o fod yn aelod o’r Côr wedi’i brofi, mae yna ddysgu o’r repertoire gyfredol sy’n arwain at gyflwyno’r wisg gorawl sef siaced frowngoch a thei ac yna’r ‘cyngerdd cyntaf’ bythgofiadwy.

Dyma hobi gwych bod yn rhan o grŵp o ddynion sy’n wirioneddol yn gwneud cyfraniad tuag at lwyddiant cymaint o fudiadau sy’n gofyn i ni eu helpu hwy i godi arian, a hynny i gyd tra’n canu wrth eich bodd !

Rydym yn ymarfer pob nos Fercher 8yh, yn y Neuadd y Pentref, Penybontfawr.

BETH AMDANI ?