BYWYD Y CÔR
Llywydd
Mrs Lynda Thomas
Is Lywyddion
Mr Ieuan Jones
Mr Gordon Jones
Mrs Olwen Jones
Mr Howard Owen
Mr Tudor Vaughan
Cadeirydd
John Rowles
Is Gadeirydd
Eifion Williams
Ysgrifennydd
David Weston
Ysgrifennydd Cyngerdd
Gerald Martin
Trysorydd
Dr Peter Jones
Llyfrgellydd
Gareth Jones
Cyfarwyddwr Cerdd ac Arweinydd – Miss Rhonwen Jones
Mae Rhonwen yn gymeriad dymunol dros ben, ac yn arweinydd deallus a phenderfynol. Mae ei hymdeimledd hyderus a’i gallu cerddorol, heb anghofio ei synnwyr digrifwch parod, yn ein hatgoffa yn aml, mor ffodus yr ydym o’i harweinyddiaeth. Roeddem eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y Gwyliau Corau Meibion Eingl-
Nid yw’r llwyfannau mawr yn ddieithr i Rhonwen. Nid yn unig mae hi’n berfformwraig brofiadol gyda Pharti Perlais a chorau cymysg Penllys a Bro Gwerfyl ond hefyd, mae wedi ennill ei phlwyf fel unawdydd a deuawdydd. Mae ei chyfraniad fel deuawdydd gyda Olwen yn ychwanegiad gwefreiddiol at ein cyngherddau ac rydym mor falch ei bod hi’n ymddangos ar ein rhestr unawdwyr.
Roeddem wrth ein bodd pan gytunodd Miss Rhonwen Jones, o Landderfel, ger y Bala, i’n harwain wedi ymddeoliad Tegwyn â fu wrth y llyw am ddwy flynedd a’r bymtheg. Cymerodd yr awenau adeg y Pasg 2012 ac roeddem yn eiddgar i fanteisio ar ei dawn a’i phrofiad helaeth ym myd cerddoriaeth. Ni chawsom ein siomi.
Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi ar gyfer ein CD newydd!
Cyfeilydd – Mrs Margaret Davies
Dirprwy Arweinydd – Mr Christopher Belk
Penderfynodd Christopher Belk ymuno a’r côr yn fuan iawn wedi iddo symud i Ddyffryn Tanat. Erbyn hyn y mae wedi bod yn aelod ers llawer o flynyddoedd. Er na fu’n ystyried ei hyn yn arweinydd, rydym yn ymwybodol o’i allu a’i weledigaeth i ddatrys cymhlethdod rhai o’r darnau cerddoriaeth anoddaf. Y mae Chris yn ddysgwr Cymraeg ymroddedig, a’i fryd ar dwysáu ei ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru. Bu’n canu mewn corau gydol ei oes ac felly gall gyfrannu o gyfoeth ei brofiad i’r cyfnod newydd hwn rydym am gychwyn gyda’n gilydd.
Mae gennym unawdwyr hefo ni bob tro yn ein cyngherddau :-
Mr Garry Evans – un o’r adran Ail Denoriaid ac mae’n canu rhai o’r darnau unawd rhai eitemau’r Côr fel ‘The Silver Trumpet’.
Mr Eifion Williams –
Mr Huw Morris –
Mr Trevor Foster –
Mr Alwyn Williams –
AELODAU A RHEOLAETH DDYDDIOL O’R COR
Y Côr cyfan sydd yn gwneud penderfyniadau ynglŷn a chyngherddau, tripiau, achlysur ar y cyd a phethau tebyg, pan yn ymarfer ac yn y dull hwnnw rydym yn hollol ddemocrataidd.
Mae’n hanes a’n daearyddiaeth yn dangos ein bod yn bennaf yn gôr o ffermwyr a chrefftwyr gwledig ond nid yw hynny yn cau allan swyddi eraill. Mae’n fater o gryn gŵyl, pan ein cyflwynir, ein bod yn galw ar wasanaethau Prifathro, Meddyg, Deintydd, Bancwr, Cyfreithiwr, Gweinidog yr Efengyl, ac Ymgymerwr.
DOD YN AELOD O’R CÔR
Rydym bob amser yn barod i dderbyn recriwtiaid newydd ac fe’u croesewir i’r adran fwyaf addas ar gyfer eu lleisiau.
I gychwyn mae cyfnod di-
Dyma hobi gwych bod yn rhan o grŵp o ddynion sy’n wirioneddol yn gwneud cyfraniad tuag at lwyddiant cymaint o fudiadau sy’n gofyn i ni eu helpu hwy i godi arian, a hynny i gyd tra’n canu wrth eich bodd !
Rydym yn ymarfer pob nos Fercher 8yh, yn y Neuadd y Pentref, Penybontfawr.
BETH AMDANI ?